Ein teulu ni yn gofalu am eich teulu chi
Mae Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched yn fusnes deuluol. Cafodd ei sefydlu dros 70 mlynedd yn ôl gan Gwilym Clifford Price a'i wraig, Phyllis. Mae'r fusnes bellach yng ngofal y mab, Cerdin; y ferch, Angharad; a'r ŵyr, Rhys. Ymfalchïa'r tair cenhedlaeth yn y safon uchel o ddarpariaeth a gynigiant.
Rydym yn aelod o Gymdeithas Gynghreiriol Annibynnol yr Ymgymerwyr Angladdau (SAIFD) ers ei sefydlu, ac yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol yr Ymgymerwyr Angladdau (NAFD) a Sefydliad Prydeinig yr Ymgymerwyr Angladdau (BIFD). Rydym yn ymgymerwyr angladdau proffesiynol a chymwysiedig sy'n meddu ar drwydded lawn.
Ymfalchïwn yn ein darpariaeth i gleientiaid, sy'n anelu at ymgyrraedd y safonau uchaf. Mi fedrwch gymryd cysur o'r ffaith eich bod yng ngofal ymgymerwyr cymwysiedig sy'n meddu ar flynyddoedd lawer o brofiad ac arbenigedd.
Rydym yn parchu pob crefydd, credo a thraddodiad.





Ein teulu'n gofalu am eich teulu
Gwilym C. Price ei Fab a’i Ferched, Cartref Angladdol Y Gorwel, 32 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7DY
01570 422673